Polisi Preifatrwydd
Hooplr yw enw'r gwasanaeth. Cyclehoop Ltd yw'r cwmni sy'n gweithredu'r gwasanaeth.
Rhif diogelu data Cyclehoop: Z3612330
Polisi Preifatrwydd
Mae Cyclehoop Ltd yn arbenigo yn dylunio a chyflenwi datrysiadau parcio beiciau a seilwaith arloesol. Fel rhan hanfodol o'n busnes, rydym yn casglu ac yn rheoli data cwsmeriaid. Wrth wneud hynny, rydym yn cadw at ddeddfwriaeth diogelu data'r DU a'r UE, ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd a'ch hawliau.
Er mwyn i chi gael gwybodaeth ddibynadwy am sut rydym yn gweithredu, rydym wedi datblygu'r Datganiad Preifatrwydd yma. Ynghyd ag unrhyw Hysbysiadau Preifatrwydd ychwanegol y gallech eu gweld wrth i chi lywio o amgylch y wefan hon, mae'r Datganiad Preifatrwydd hwn yn disgrifio'r ffyrdd yr ydym yn casglu, rheoli, prosesu, storio ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gan eich bod wedi ymweld â'r wefan hon. Mae'r Datganiad Preifatrwydd yma hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut y gallwch chi gael rheolaeth dros ein defnydd o eich data.
Fe fyddwn yn diweddaru'r Datganiad Preifatrwydd yma er mwyn eich cadw'n gwbl gyfredol â'n dull o ddelio â diogelu data a phreifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynglyn ag ein defnydd o'ch data, neu os ydych am ddad-danysgrifio rhag derbyn cyfathrebiadau marchnata gennym, cysylltwch â ni drwy e-bost: hello@hooplr.com neu drwy'r post: Cyclehoop Ltd, Uned 1 Burnham Way, Kangley Bridge Road, London, SE26 5AG, UK.
Data Personol
Gall y wybodaeth a gasglwn amdanoch chi gynnwys eich enw, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, ac unrhyw wybodaeth arall y gall fod ei hangen arnom i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau. Cyfeirir at hyn fel eich "data personol". Rydym yn casglu'r data hwn mewn nifer o wahanol ffyrdd. Er enghraifft, gallech ddarparu'r data hwn yn uniongyrchol wrth lenwi ffurflenni ar y wefan hon, wrth wneud pryniant neu wrth gyfathrebu dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy llythyr.
Hyd yn oed os nad ydych yn cofrestru gyda ni, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth dechnegol amdanoch fel eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) sy'n cysylltu'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol â'r rhyngrwyd, eich gwybodaeth fewngofnodi, math a fersiwn y porwr, math a fersiwn y system weithredu, y wlad a'r cod ffôn lle mae'ch cyfrifiadur wedi'i leoli, a gwybodaeth am eich ymweliad gan gynnwys cynhyrchion yr edrychwch arnynt neu a chwilioddch amdanynt, amseroedd ymateb y dudalen, gwallau lawrlwytho a hyd yr ymweliadau â rhai tudalennau.
Am ba Hyd Byddwn ni'n Cadw Eich Data?
Ni fydd Cyclehoop Ltd byth yn cadw eich data am gyfnod hirach nag sy'n angenrheidiol i ni gwblhau'r gweithgaredd y casglwyd eich data ar ei gyfer yn y lle cyntaf. Ta beth, weithiau mae rheswm cyfreithlon a/neu gyfreithiol yn golygu bod angen i ni gadw eich data. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ychwanegu rhagor o fanylion at y Datganiad Preifatrwydd yma, gan nodi gwybodaeth bellach am ein harferion.
Sut Rydym yn Rhannu Data
Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol i unrhyw sefydliad allanol.
Byddwn yn rhannu eich data â chwmnïau sy'n hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi a chyflawni'r contract. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n hanfodol i gyflawni archebion cwsmeriaid, gan gynnwys cynhyrchwyr, is-gontractwyr a chwmnïau cludo pan fo angen.
Ar adegau, efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda chwmnïau ac Awdurdodau Lleol sydd â buddiant cyfreithlon er mwyn dangos fôd yna alwad am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd eich data yn cael ei ddienwoli a'i ddefnyddio at ddibenion ystadegol yn unig, ac ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei rhannu.
Rydym yn eich sicrhau mai dim ond pryd mae (i) gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu (ii) ei bod yn angenrheidiol er mwyn cadw at gontract rhyngoch chi a Cyclehoop Ltd; neu (iii) bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i rannu'r wybodaeth; neu (iv) ei bod o fudd i'r cyhoedd; neu (v) ei bod yn angenrheidiol er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (vi) ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol chi neu buddiannau hanfodol person arall y byddwn yn cyfnewid eich data â sefydliad arall.
Diweddaru neu Newid Eich Data Personol
Os byddwch, ar unrhyw bryd, eisiau diweddaru neu ddiwygio eich data personol, gallwch wneud hynny ar eich cyfrif ar-lein neu drwy e-bost: hello@hooplr.com. Fel y gwrthrych data, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y data a gedwir gennym ar ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol.
Tynnu Cydsyniad a'r Hawl i Gael eich Anghofio
Os ydych, ar unrhyw adeg, am dynnu eich caniatâd i weithgareddau prosesu data, neu os ydych am gael eich data wedi'i ddileu'n ddiogel o'n cronfa ddata, gallwch wneud hynny trwy ofyn am Ffurflen Tynnu Caniatâd Pwnc Data drwy e-bost: hello@hooplr.com. Ar ôl derbyn y Ffurflen Tynnu Cydsyniad Pwnc Data wedi'i llofnodi, bydd Cyclehoop Ltd yn atal unrhyw weithgareddau prosesu a oedd yn dibynnu ar y cydsyniad hwn ac yn dileu eich data yn ddiogel os i chi'n gofyn.
Diogelwch Taliadau Cerdyn
Nid ydym yn cadw unrhyw fanylion cardiau credyd cwsmeriaid yn ein cronfeydd data. Yn ystod y broses dalu, mae manylion cerdyn credyd cwsmeriaid yn cael eu cynnal gan gwmnïau porth talu. Mae gan y porthau talu yr ydym yn eu defnyddio bolisïau diogelwch llym ac maent yn cydymffurfio â PCI DSS. Am ragor o wybodaeth, gwelwch polisïau preifatrwydd cwmnïau unigol.
Ymwadiadau
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, ac yn y Datganiad Preifatrwydd hwn, yn gywir ac yn gyfredol, ond ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau neu hepgoriadau a gynhwysir yma.
Ni allwn dderbyn atebolrwydd am y defnydd a wnewch o'r wybodaeth ar y wefan hon neu yn y Datganiad Preifatrwydd hwn, ac nid ydym yn gwarantu y bydd cyflenwi'r wybodaeth yn ddi-dor. Mae'r holl ddeunydd y cewch fynediad ato neu a lawrlwythir o'r wefan hon yn gyfrifoldeb i chi eich hun. Eich cyfrifoldeb chi yw defnyddio meddalwedd gwrth-firws briodol.
Mae'r Datganiad Preifatrwydd yma'n berthnasol i'r data a gasglwyd gennym ni yn unig, ac felly nid yw hefyd yn berthnasol i ddata a gasglwyd gan wefannau a gwasanaethau trydydd parti nad ydynt o dan ein rheolaeth ni. Yn ogystal, ni ellir ein dal yn gyfrifol am y Datganiadau Preifatrwydd ar wefannau trydydd parti, ac rydym yn cynghori defnyddwyr i ddarllen y rhain yn ofalus cyn cofrestru unrhyw ddata personol.