Telerau ac Amodau yn y Gymraeg

DIFFINIADAU

  • Mae “Gweithredwr” yn golygu Cyclehoop Limited y mae  swyddfa yn Uned 1 Kangley Industrial Estate, Burnham Way, Llundain, SE26 5AG;

  • Mae “Cyngor” yn golygu'r sefydliad sy'n berchen ar y cyfleusterau;

  • Mae “Aelod” yn golygu'r unigolyn sy'n talu am y gwasanaethau a ddarperir gan y Gweithredwr a'r Landlord ac sy'n dymuno eu defnyddio;

  • Mae “Aelodaeth” yn golygu'r gwasanaeth a ddarperir gan y Gweithredwr i'r Aelod;

  • Mae “Cyfleuster” yn golygu'r parcio beiciau (e.e. Bikehangar, Bikelocker, Cycle Hub) sy’n cael ei reoli gan y Gweithredwr a ble bydd beic yr Aelod yn cael ei storio;

  • Mae “Allwedd Mynediad” yn golygu'r allwedd y gellir agor a chau cyfleuster â hi;

  • Mae “Cerdyn Mynediad” yn golygu'r cerdyn allwedd electronig y gellir cael mynediad i gyfleuster âg ef;

  • Mae “Tag Diogelwch” yn golygu'r tag gwrth-damperio â chod unigryw, sydd i'w osod o dan gyfrwy'r beic;

  • Mae “Depot Beiciau” yn golygu'r man lle caiff beiciau sydd wedi torri'r telerau ac amodau hyn eu storio dros dro.

1. TYMOR

1.1 Darperir y gwasanaethau o'r dyddiad y derbynnir y taliad gan yr Aelod a byddant yn para am gyfnod cychwynnol o 1 flwyddyn.

1.2 Bydd yr aelodaeth yn cael ei hadnewyddu'n awtomatig am gyfnod o 1 flwyddyn arall hyd nes y caiff ei derfynu yn unol â'r telerau ac amodau hyn.

2. COST A PHRISIO

2.1 Bydd cost yr aelodaeth yn cael ei thynnu naill ai'n flynyddol neu'n fisol ymlaen llaw fel taliad aelodaeth. Ni ellir ad-dalu unrhyw daliad aelodaeth a wneir.

2.2 Ar ôl y taliad cychwynnol, bydd yr Aelod yn cael ei ddebyngu'n awtomatig drwy Stripe ar ddechrau pob cyfnod talu. Mae Stripe, platfform ardystiedig sy'n cydymffurfio â PCI, yn darparu proses dalu gwbl ddiogel ac yn trin yr holl drafodion cerdyn ar ran y Gweithredwr.

2.3 Bydd angen talu blaendal ad-daladwy am bob Allwedd Mynediad. Bydd y blaendal hwn yn daladwy ar yr un pryd â'r taliad aelodaeth cyntaf, a chaiff ei ad-dalu pan ddaw'r aelodaeth i ben a bydd yr Allwedd Mynediad yn cael ei dychwelyd i'r Gweithredwr.

2.4 Efallai y bydd angen talu ffi gofrestru unwaith ac am byth ar gyfer rhai cyfleusterau. Ni ellir ad-dalu'r ffi hon a bydd yn daladwy ar yr un pryd â'r taliad aelodaeth cyntaf.

2.5 Mae llawer o Landlordiaid yn dewis rhoi cymhorthdal tuag at y ffi aelodaeth, gan leihau'r gost i'r Aelodau am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gall y prisiau newid a dychwelyd i'r pris safonol gyda rhybudd byr neu heb unrhyw rybudd. Mae gan yr Aelod 7 diwrnod o'r dyddiad y caiff taliad adnewyddu ei gymryd i ganslo ei aelodaeth a derbyn ad-daliad llawn.

2.6 Y Gweithredwr sy'n pennu'r holl brisiau, a gallant newid.

3. DEFNYDD A DYLETIADAU'R TANYSGRIFIWR

3.1 Mae'r cyfleusterau a ddarperir at ddefnydd yr Aelod yn unig ac nid ydynt yn drosglwyddadwy. Rhaid defnyddio'r lleoedd i storio beic sy'n eiddo i'r Aelod neu sydd dan ei ofal. Ni chaniateir storio unrhyw ategolion neu eitemau eraill.

3.2 Pan roddir lle parcio rhifedig dynodedig i Aelod o fewn y cyfleuster, rhaid iddo/iddi barcio ei feic/beic yn y lle hwnnw yn unig. Bydd Aelodau y canfyddir eu bod yn storio eu beic mewn lle arall yn torri'r Telerau ac Amodau hyn a gall y Gweithredwr tynnu'r beic heb rybudd.

3.3 Caniateir un beic yn unig fesul lle. Bydd Aelodau y canfyddir eu bod yn storio mwy nag un beic mewn un lle yn torri'r Telerau ac Amodau a gall y Gweithredwr dynnu'r beic heb awdurdod heb rybudd.

3.4 Mewn cyfleusterau lle mae system Tagiau Diogelwch ar waith, darperir un Tag Diogelwch fesul lle beic drwy'r post i bob Aelod ar ôl cwblhau'r taliad cychwynnol. Rhaid i bob beic gael Tag Diogelwch wedi'i atodi'n weladwy i bostyn y sedd.

3.5 Darperir un Allwedd Mynediad neu un Cerdyn Mynediad fesul aelodaeth drwy'r post i bob Aelod ar ôl cwblhau'r taliad cychwynnol. Ni chaiff yr Aelod geisio creu Allweddi Mynediad ychwanegol na dyblygu Cardiau Mynediad.

3.6 Oni nodir yn wahanol, gellir prynu uchafswm o ddau aelodaeth fesul cartref (h.y. dau le fesul cyfeiriad preswyl, waeth pa un o'r preswylwyr sy'n dal yr aelodaethau). Pan fo cartref wedi prynu mwy na dau aelodaeth, bydd unrhyw daliadau ychwanegol yn cael eu had-dalu i gyfrif banc yr Aelod perthnasol, wedi tynnu unrhyw ffioedd cerdyn a/neu ffioedd trafodyn cysylltiedig.

3.7 Bydd modd defnyddio'r cyfleusterau 24 awr y dydd, oni nodir yn wahanol. Rhaid bod yn ofalus ac ystyriol o ran sŵn gormodol neu aflonyddu preswylwyr cyfagos a chael lleihau hyn lle bo modd.

3.8 Rhaid i’r Aelod ddarllen a chydymffurfio â’r cyfarwyddiadau defnyddiwr ar gyfer y cyfleuster, a fydd yn cael eu hanfon ato/ati yn ei e-bost croeso a byddant hefyd ar gael ar wefan y Gweithredwr.

3.9 Gall fod cyfyngiadau ar storio beiciau yn barhaus mewn rhai cyfleusterau. Pan fydd cyfleuster yn gweithredu polisi o’r fath, rhoddir gwybod i’r Aelod am hyn ar wefan y Gweithredwr ac yn ei e-bost croesawu. Os canfyddir bod beic yn cael ei storio'n barhaus yn y cyfleuster am gyfnod hirach na'r uchafswm, caiff ei dynnu yn unol â pholisi tynnu'r Gweithredwr.

3.10 Rhaid i'r Aelod gymryd pob gofal rhesymol wrth ddefnyddio'r cyfleuster a rhaid iddo osgoi ei ddifrodi ef neu unrhyw gyfarpar sydd ynddo.

3.11 Rhaid i'r Aelod hysbysu'r Gweithredwr am unrhyw ddifrod neu faterion cynnal a chadw. Bydd y Gweithredwr yn datrys materion cynnal a chadw cyn gynted â phosibl, yn amodol ar rwymedigaethau cytundebol a chymeradwyaeth y Landlord.

3.12 Nid yw'r Gweithredwr na'r Landlord yn gyfrifol am achosion o golli a/neu ddifrodi a/neu ddwyn eitemau sy'n cael eu storio yn y cyfleusterau. Nid yw'r Gweithredwr yn yswirio unrhyw feiciau na chyfarpar ategol sy'n cael eu storio yn y cyfleusterau y mae'n eu rheoli. Mae pob Aelod yn gyfrifol am drefnu ei yswiriant ei hun ar gyfer unrhyw feic a storir yn y cyfleuster. Gadewir pob eitem ar risg y perchennog.

3.13 Yr Aelod sy'n gyfrifol am sicrhau bod ei daliad yn cael ei gynnal a bod unrhyw ôl-ddyledion yn cael eu clirio o fewn 14 diwrnod. Unwaith y bydd cyfrif yn mynd â mwy na 14 diwrnod o ôl-ddyledion, mae'r Gweithredwr yn cadw'r hawl i dynnu beic aelod ar unwaith a heb rybudd.

3.14 Ni argymhellir y cyfleusterau ar gyfer beiciau cargo oni bai bod parcio penodol ar gyfer beiciau cargo ar gael, ac efallai na fydd rhai ategolion, fel seddi plant a seddi blaen, yn ffitio ar adegau. Os nad yw eich beic yn ffitio, mae gennych 14 diwrnod i ddychwelyd yr allweddi er mwyn cael ad-daliad llawn.

3.15 Yn unol â'n Polisi Dwyn Beiciau, rydych yn gadael eich beic ar eich cyfrifoldeb eich hun. Nid yw'r Gweithredwr na'r Landlord yn gyfrifol am achosion o golli, difrodi a dwyn beiciau, cloeon neu eitemau eraill sy'n cael eu storio yn yr unedau.

4. TYNNU EITEMAU

4.1 Mae'n wahardd storio unrhyw eitemau neu nwyddau yn y cyfleusterau a ddarperir, ac eithrio beiciau.

4.2 Bydd y Gweithredwr yn tynnu unrhyw eitemau gwaharddedig ac yr Aelod fydd yn talu unrhyw gostau a ysgwyddir. Nid oes gan yr Aelod hawl i unrhyw iawndal na chael unrhyw nwyddau a symudwyd yn ôl na chael unrhyw iawndal am unrhyw ddifrod a achosir i nwyddau o'r fath, gan gynnwys beiciau a chloeon.

4.3 Gall y Gweithredwr dynnu beic nad oes Tag Diogelwch ynghlwm â hi a/neu nad yw wedi ei barcio yn y lle parcio rhifedig dynodedig (os yw hynny'n berthnasol) o'r cyfleuster heb rybudd ymlaen llaw a'i gludo i'r Ddepô Beiciau.

4.4 Bydd beiciau a symudir yn cael eu cadw am uchafswm o 30 diwrnod yn y Ddepô Beiciau a gellir eu casglu o'r Depô Beiciau ar ôl talu dirwy o £20. Bydd beiciau na chasglir ar ôl 30 diwrnod yn dod yn eiddo i'r Gweithredwr a byddant yn cael eu rhoi i elusen. Os yw eich beic wedi cael ei symud, ffoniwch y swyddfa ar 0208 699 1338.

5. ALLWEDDAU, CARDIAU A MYNEDIAD

5.1 Os caiff Allwedd Mynediad neu Gerdyn Mynediad ei golli neu ei ddwyn, rhaid i'r Aelod hysbysu'r Gweithredwr ar unwaith. Yr Aelod sy'n gyfrifol am y costau sy'n deillio o golli'r Allwedd Mynediad neu'r Cerdyn Mynediad, gan gynnwys creu a chyhoeddi allwedd neu gerdyn newydd ac, os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol gan y Gweithredwr, amnewid yr holl Allweddi Mynediad ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.

5.2 Rhaid talu am bob Allwedd Mynediad neu Gerdyn Mynediad newydd ymlaen llaw, a dim ond ar ôl derbyn yr arian y byddant yn cael eu harchebu. Mae gan allweddi a chardiau newydd amser arweiniol o hyd at 3 wythnos waith. Dim ond pan gaiff yr Allwedd Mynediad ei dychwelyd i'r Gweithredwr wrth i'r aelodaeth ddod i ben y caiff unrhyw flaendal ei ad-dalu. Ni ellir defnyddio symiau'r blaendal i brynu allweddi newydd.

5.3 Gall y Gweithredwr, yn ôl ei ddisgresiwn, agor y cyfleusterau at ddibenion cynnal a chadw rheolaidd, diogelwch neu resymau eraill ac ni fydd yn rhwym i hysbysu'r Aelodau.

5.4 Mae'r Gweithredwr yn cadw'r hawl i newid y clo i'r cyfleusterau unrhyw bryd. Lle bo hynny'n briodol, darperir Allwedd Mynediad neu Gerdyn Mynediad newydd i'r Aelodau.

6. TERFYNU

6.1 Gall yr Aelod wneud cais i'r Gweithredwr i ganslo ei aelodaeth gan ddefnyddio'r porth canslo ar-lein o leiaf 14 diwrnod cyn diwedd ei gyfnod talu nesaf. Bydd taliadau aelodaeth awtomatig yn cael eu hatal. Ni ellir ad-dalu unrhyw daliad aelodaeth a wnaed.

6.2 Ar ddiwedd y cyfnod aelodaeth, bydd y Gweithredwr yn hysbysu'r Aelod 7 diwrnod cyn adnewyddu ei aelodaeth ac yn rhoi rhybudd am ddyddiad y taliad awtomatig nesaf.

6.3 Pan ddaw'r aelodaeth i ben, bydd yr Aelod yn dychwelyd ei Allwedd Mynediad i'r Gweithredwr ar unwaith. Cyfrifoldeb yr Aelod yw gwneud yn siŵr bod yr Allwedd Mynediad yn cael ei dychwelyd. Bydd y Gweithredwr yn ad-dalu'r flaendal i'r Aelod ar ôl derbyn yr Allwedd Mynediad.

6.4 Os bydd yr Aelod yn methu â dychwelyd yr Allwedd Mynediad neu'r Cerdyn Mynediad i'r Gweithredwr o fewn pum niwrnod gwaith o'r dyddiad y daw'r aelodaeth i ben, bydd yr Aelod yn colli arian ei flaendal.

6.5 Bydd unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir gan y Gweithredwr mewn perthynas â methiant yr Aelod i ddychwelyd ei Allwedd Mynediad (gan gynnwys newid cloeon a chreu ac dosbarthu allweddi neu gardiau newydd i aelodau eraill) yn cael eu hadennill gan yr Aelod. Gellir trosglwyddo'r achos i asiant adennill dyledion os ystyrir bod hynny'n briodol.

6.6 Ar ddiwedd yr Aelodaeth, rhaid tynnu pob eiddo sy'n eiddo i'r Aelod allan o'r cyfleusterau. Bydd unrhyw feiciau, eitemau neu gloi na chaiff eu tynnu yn dod yn eiddo i'r Gweithredwr a byddant yn cael eu rhoi i elusen. Bydd yr Aelod yn talu unrhyw gostau a achosir.

6.7 Ni roddir unrhyw ad-daliadau rhannol os bydd Aelod yn dewis terfynu'r cytundeb hanner ffordd trwy gyfnod ei aelodaeth.

6.8 Gall y Gweithredwr atal neu derfynu'r gwasanaethau hyn unrhyw bryd am unrhyw reswm heb rybudd. Yn yr amgylchiadau hyn, gall unrhyw daliadau a wnaed eisoes gael eu had-dalu yn unol â disgresiwn y Gweithredwr.

7. GWARANTIADAU A GWRTHODIADAU CYFRIFOLDEB

7.1 Mae'r Gweithredwr yn darparu'r gwasanaethau “fel y maent”. I'r graddau y caniateir yn ôl y gyfraith, mae'r Gweithredwr yn eithrio pob gwarant, amod, telerau neu ddatganiad, penodol neu ymhlyg, mewn cysylltiad â'r gwasanaethau.

7.2 I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Gweithredwr yn atebol am iawndal anuniongyrchol, arbennig, canlyniadol, enghreifftiol neu gosbol na cholli elw, refeniw neu ddata a cholledion ariannol.

7.3 I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, mae cyfanswm atebolrwydd y Gweithredwr, am unrhyw hawliad o dan y telerau hyn, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), a thorri dyletswydd statudol neu fel arall, yn gyfyngedig i'r swm a delir am y gwasanaethau.

7.4 Nid yw'r Gweithredwr yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir i feiciau o ganlyniad i gerbyd daro'r Cyfleuster.

7.5 Pe bai'r Cyfleuster yn cael ei ddifrodi gan drydydd parti, megis drwy gwrthdrawiad neu dar gan gerbyd, efallai y bydd gofyn i'r Gweithredwr symud neu dynnu'r Cyfleuster pan fo risg i ddiogelwch y cyhoedd. Gall hyn gynnwys symud yr uned yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys unrhyw feiciau dan glo, gyda rhybudd byr neu heb unrhyw rybudd er mwyn sicrhau bod y beiciau a'r cyhoedd yn parhau i fod yn ddiogel.

8. RHANNU DATA

8.1 Bydd y Gweithredwr yn rhannu data’r Aelod â chwmnïau sy’n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau i chi a chyflawni’r contract. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n hanfodol i gyflawni archebion cwsmeriaid, gan gynnwys cynhyrchwyr, is-gontractwyr a chwmnïau cludo pan fo angen.

8.2 Ar adegau, gall y Gweithredwr rannu data'r Aelod gyda sefydliadau ac Awdurdodau Lleol sydd â buddiant cyfreithlon, er mwyn dangos galw am gynhyrchion a gwasanaethau. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd data’r Aelod yn cael ei ddienwoli a’i ddefnyddio at ddibenion ystadegol yn unig, ac ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei rhannu.

8.3 Dim ond pan fo (i) gennym ganiatâd penodol yr Aelod i wneud hynny; neu (ii) ei bod yn angenrheidiol er mwyn cadw at gontract rhwng yr Aelod a’r Gweithredwr; neu (iii) bod rhwymedigaeth gyfreithiol i rannu’r wybodaeth; neu (iv) ei bod o fudd i’r cyhoedd; neu (v) ei bod yn angenrheidiol er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (vi) ei bod yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau hanfodol yr Aelod neu berson arall y bydd y Gweithredwr yn cyfnewid data’r Aelod â sefydliad arall.

8.4 Mae Polisi Preifatrwydd y Gweithredwr ar gael i'w weld yn llawn ar https://hooplr.com/cy/polisi-preifatrwydd

9. YNGHYLCH Y TERMAU HWN

9.1 Mae'r Gweithredwr yn cadw'r hawl, o bryd i'w gilydd, gyda rhybudd i chi neu heb rybudd, i newid y Telerau ac Amodau hyn yn unol â'n disgresiwn ni yn unig. Y Telerau ac Amodau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a ddarperir fydd y fersiwn sydd yn gyfredol ac a ddangosir ar y Gwefan hon. Mae defnyddio'r gwasanaethau ar ôl i newidiadau gael eu gwneud yn golygu bod yr Aelod yn cytuno i gael ei rwymo gan y newidiadau hynny.

9.2 Gall Aelodau y canfyddir eu bod yn torri'r Telerau ac Amodau hyn gael eu haelodaeth wedi'i chanslo ar unwaith heb unrhyw ad-daliad a gallai hyn arwain at golli unrhyw ddirwym a gwaharddiad oes rhag unrhyw un o gyfleusterau a gwasanaethau'r Gweithredwr.